Hawliau Traws = Hawliau Dynol
Mae pobl draws a’u hawliau dynol o dan fygythiad yn y DU, yn fwy heddiw nag ers degawdau.
Mae’r Rhyddfrydwyr Ifanc yn benderfynol o ymladd ochr-yn-ochr â’r gymuned draws wrth iddynt frwydro am fynediad rhydd a theg i ofal iechyd, a’r hawl i fwy eu bywydau mewn heddwch heb ymyrraeth anghyfiawn.
Mae’r Rhyddrwydwyr Ifanc yn llwyr gefnogi y Democratiaid Rhyddfrydol LHDTC+ yn yr oll y maent yn gwneud dros hawliau traws.
Credwn ni fod:
- Sefyllfa y system gofal iechyd ar gyfer pobl draws yn y DU yn hollol aneffeithiol a bod hi’n hen bryd i ddiwygio’r system fel bod pobl draws yn medru cael mynediad i’r gwasanaeth hollbwysig yma heb oedi na chost
- Y newidiadau i’r Ddeddf Cydnabod Rhywedd angen diwygio’r system i sicrhau fod y broses drosi mor syml a diffwdan a phosibl
- Angen i’r Llywodraeth wneud mwy i daclo;r camwahaniaethu a’r annhegwch yn erbyn y gymuned draws, ar-lein ac mewn person
- Angen i’r Llywodraeth wneud mwy i sicrhau fod pobl draws yn medru cael mynediad saff a chyfreithlon i gyflusterau sy’n cyfateb â’u rhywedd
- Menywod Traws yn Fenywod, Dynion Traws yn Ddynion, a phobl anneuaidd yn anneuaidd
- Hawliau Traws yn Hawliau Dynol
Fe ddewch chi o hyd i fwy yn ein Llyfr Polisi